O Hyn Ymlaen (Tnt v Llwybr Cyhoeddus)
Mi gwrddais i Colin yn Stiwdio Orange Sounds, a'r tro diwethaf imi ei weld roedd y ddau ohonom ni wedi'n gorchuddio hefo mwd ac yn cerdded oddi ar gae rygbi (lle roedd Bangor yn chwarae cyn i Tesco gael ei adeiladu), doeddwn i ddim wedi sylweddoli pwy oedd o nes inni olchi'r mwd oddi ar ein wynebau- mae ganddo lais ardderchog ac mae'n hanfodol ei glywed o'n perfformio'n fyw! Diolch i Mam a Dad am roi i fyny hefo'r holl dwrw ac am gael gadael yr holl offerynnau yn y ty. Diolch i'm chwaer Wendy - ddaru hi erioed sylwi mod i wedi dwyn sengl "Free" ac un Marc Bolan- T Rex hefyd! Diolch hefyd i mrawd David oedd yn berchen ar albymau'r Beatles a Band on the Run, Paul McCartney ac Imagine, John Lennon.Dwi'n caru fy ngwraig Megan a fy merched Jessica a Llio yn fawr iawn.. Parch mawr hefyd i Jaci Williams a diolch i Hefin Huws a Gari Edwards am adael inni chwarae eu caneuon. Diolch i Geraint Jarman am ffonio a chytuno inni berfformio "Rhywbeth Bach yn Poeni". Diolch i Andy (Beamish) Jones am adael imi chwarae "S
